Cod Stiwardiaeth y DU FRC

Llwyddiant Stiwardiaeth CAA

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Cronfa Bensiynau Clwyd (y Gronfa) wedi llwyddo i gadw ei statws llofnodydd o God Stiwardiaeth y DU y Cyngor Adrodd Ariannol ar gyfer 2024 ac yn aros am ganlyniad cais 2025.

Mae’r safonau stiwardiaeth llym a nodir yng ‘Nghod Stiwardiaeth y DU 2020’ (y Cod) yn ceisio sicrhau cyfrifoldeb wrth ddyrannu cyfalaf, ei reoli a’i oruchwylio er mwyn cynhyrchu gwerth hirdymor i gleientiaid a buddiolwyr, gan arwain at fuddion cynaliadwy i’r economi, yr amgylchedd a chymdeithas. Mae’r Gronfa yn falch o fod yn llofnodydd o’r Cod ers 2022.

Trwy gynnal y statws llofnodydd gwirfoddol, mae’r Gronfa’n atgyfnerthu’r ymrwymiad i stiwardiaeth a thryloywder ar gyfer ei budd-ddeiliaid.

Gan edrych tua’r dyfodol, mae’r Gronfa’n bwriadu adrodd yn unol â ‘Chod Stiwardiaeth y DU 2026’ sydd i ddod, gan barhau â’r ymrwymiad i ddatblygu arferion gorau mewn buddsoddi cyfrifol.

Mae rhestr lawn y Cyngor Adrodd Ariannol o Lofnodwyr i’w gweld yma (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg).

I weld Adroddiad Stiwardiaeth y Gronfa, cliciwch yma.