Deallusrwydd Artiffisial (DA)
Cynghorwr CPLlL
Mae technoleg yn newid yn gyflym, ac mae rhai twyllwyr yn defnyddio DA i geisio twyllo pobl. Ystyr DA yw Deallusrwydd Artiffisial.
Beth all DA ei wneud?
Gall DA wneud llawer o bethau clyfar, fel:
- Ysgrifennu negeseuon
- Copïo llais rhywun
- Creu fideos ffug
- Smalio bod yn bobl go iawn ar-lein
Weithiau, caiff ei ddefnyddio ar gyfer adnoddau hwyliog neu ddefnyddiol, ond gall twyllwyr ei ddefnyddio i gamarwain pobl hefyd. Dyma pam mae’n bwysig bod yn ofalus pan fyddwch chi’n cael negeseuon am eich arian neu eich pensiwn.
Beth yw fideos ffugiad dwfn?
Fideo ffugiad dwfn yw fideo a grëwyd gan DA. Mae’n edrych yn real, ond mae wedi’i newid neu ei greu i’ch twyllo chi.
Gallai fideo ffugiad dwfn:
- Ddangos unigolyn yn dweud rhywbeth nad ydyn nhw erioed wedi’i ddweud
- Defnyddio llais wedi’i gopïo sy’n swnio’n union fel nhw
- Edrych fel rhywun yr ydych chi’n ymddiried ynddynt, er mai nad nhw sydd yno o gwbl
Defnyddir fideos ffugiad dwfn yn aml i gael pobl i drosglwyddo arian neu wybodaeth breifat.
Byddwch yn ofalus gyda gwybodaeth bersonol
Mae gan rai gwefannau ac apiau adnoddau sgwrsio DA sy’n dweud eu bod yn gallu helpu gydag arian neu gyngor.
Gallai’r adnoddau hyn fod yn ddefnyddiol, ond ni ddylech fyth roi eich manylion pensiwn preifat i mewn i unrhyw system DA.
Peidiwch â rhannu:
- Rhif eich cyfrif pensiwn
- Slipiau cyflog
- Llythyrau a datganiadau pensiwn
- Eich dyddiad geni neu eich cyfeiriad cartref
- Eich Rhif Yswiriant Gwladol
Pan fyddwch chi wedi mewnbynnu eich gwybodaeth ar-lein, efallai na fyddwch chi’n gwybod i le fydd yn mynd neu bwy all ei gweld.