Eich cyfraniadau pensiwn

Fel aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), mae eich cyfraniadau pensiwn yn dod allan o’ch cyflog gros cyn i unrhyw dreth gael ei dynnu. Mae faint o gyfraniadau rydych chi’n ei dalu yn ganran o’ch cyflog gros. Mae’ch canran yn dibynnu ar y cyflog blynyddol yr ydych chi’n ei ennill.

Pan fyddwch chi’n dod yn aelod gyntaf, fe fydd eich cyflogwr yn cymryd cyfraniadau cyfradd llawn gennych chi yn awtomatig. Mae hyn yn golygu y byddwch chi ym mhrif adran Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Byddwch chi’n cronni pensiwn ar y gyfradd lawn, a bydd gennych chi’r un yswiriant marw yn y swydd ac yswiriant salwch.

Mae gennych chi hefyd ddewis i dalu cyfraniadau pensiwn ar hanner y gyfradd dros dro. Adran 50:50 y CPLlL yw enw hyn. Byddwch chi’n cronni pensiwn ar hanner y raddfa, ond bydd gennych chi’r un yswiriant marw yn y swydd ac yswiriant salwch ag aelod sy'n talu cyfraniadau pensiwn ar gyfradd lawn yn y brif adran.

Y cyfraddau cyfrannu rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2027 ar gyfer y brif adran ac adran 50:50 yw:

Eich cyflog gwirioneddol grosCyfradd cyfraniadau ar gyfer y brif adranCyfradd cyfraniadau ar gyfer yr adran 50:50
Hyd at £18,400 5.50% 2.75%
£18,401 i £29,000 5.80% 2.90%
£29,001 i £47,300 6.50% 3.25%
£47,301 i £59,800 6.80% 3.40%
£59,801 i £84,000 8.50% 4.25%
£84,001 i £119,100 9.90% 4.95%
£119,101 i £140,400 10.50% 5.25%
£140,401 i £210,700 11.40% 5.70%
Mwy na £210,701 12.50% 6.25%

Trwy glicio ar y ddolen isod, gallwch gyfrifo pa gyfraniadau y byddwch chi’n eu talu drwy gofnodi:

  • eich cyflog pensiynadwy blynyddol
  • amlder eich cyflog; a
  • pa unai ydych chi yn y brif adran neu adran 50:50.

Cyfrifiannell Cyfraniadau CPLlL (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg)

Beth yw taliad pensiwn i rai sydd ar incwm isel?

Bydd y rhan fwyaf o aelodau yn cael rhyddhad treth yn awtomatig ar eu cyfraniadau pensiwn. Fodd bynnag, nid yw rhai aelodau sydd ar incwm isel yn cael y rhyddhad treth hwn oherwydd bod eu henillon yn rhy isel i dalu treth incwm.

Mae taliad pensiwn i rai sydd ar incwm isel wedi ei gyflwyno i ddatrys hyn. Mae’n daliad i unigolion cymwys sydd ar incwm isel sy’n gyfwerth â’r rhyddhad treth sydd ar gael i aelodau cynlluniau pensiwn, sy’n defnyddio dull gwahanol o roi rhyddhad treth pensiwn.

A allaf fod yn gymwys?

Gallech fod yn gymwys i gael taliad os, o flwyddyn dreth 2024/2025 ymlaen, rydych wedi:

  • talu cyfraniadau i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu gynllun pensiwn gweithle arall sy’n defnyddio trefniant tâl net, a
  • ni chawsoch ryddhad treth ar y cyfraniadau hynny oherwydd nad oeddech yn talu treth incwm

Bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cadarnhau’r cymhwysedd ar gyfer bob blwyddyn dreth ar wahân, felly gall rhai unigolion fod yn gymwys ar gyfer taliadau am fwy nag un flwyddyn.

Oes angen i mi wneud cais?

Nid oes angen i chi wneud cais. Os ydych yn gymwys, bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Byddant naill ai’n ysgrifennu at unigolion cymwys neu’n cysylltu â nhw trwy eu Cyfrif Treth Personol o fis Awst 2026 ymlaen.

Byddwch yn wyliadwrus o dwyll

Gan y bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cysylltu â phobl ynglŷn ag arian a allai fod yn ddyledus iddynt, gall twyllwyr geisio cymryd mantais o’r sefyllfa.

Cofiwch:

  • Ni fydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian iddynt i gael taliad
  • Ni fydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi byth yn gofyn am eich rhifau PIN neu gyfrineiriau

Os ydych yn ansicr os yw neges yn un ddilys, gallwch glicio ar Gwirio a yw e-bost rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys. Bydd y testun ‘taliad pensiwn i rai sydd ar incwm isel’ yn cael ei gynnwys ar y rhestr o fis Awst 2026.

Mae’r enghraifft isod yn dangos y gwahaniaeth o ran sut y bydd eich pensiwn yn cronni ym mhrif adran neu adran 50:50 CPLl. Mae’r enghraifft yma wedi’i seilio ar gyflog blynyddol o £26,000.

 Prif AdranAdran 50:50
Cyfraniad Gros Blynyddol £1,508 (5.80%) £754 (2.90%)
Pensiwn Blynyddol wedi’i Gronni £530.61 (1/49fed) £265.30 (1/98fed)
Yswiriant Marw yn y Swydd £78,000 (3 x £26,000) £78,000 (3 x £26,000)

Yn ogystal â’ch cyfraniad chi, bydd eich cyflogwr hefyd yn gwneud cyfraniadau er mwyn sicrhau bod digon o arian i dalu eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.

Bob tair blynedd, mae ein Hactiwari yn cyfrifo beth ddylai canran y cyfraniadau fod ar gyfer eich cyflogwr.