Apeliadau a Chwynion
Os oes gennych chi broblem neu fater, cysylltwch â phwy bynnag wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei achosi a gofynnwch iddynt am eglurhad. Efallai mai eich cyflogwr, eich cyn-gyflogwr neu Gronfa Bensiynau Clwyd fydd hyn. Mae’n bosibl bod y broblem wedi deillio o gamddealltwriaeth a bod modd ei datrys yn ddidrafferth.
Os bydd arnoch chi angen mynd â’r mater ymhellach, mae’n rhaid i chi ddilyn y Weithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol swyddogol.
Gellir defnyddio’r Weithdrefn hon i ddatrys unrhyw gŵyn, anghydfod neu anghytundeb sydd gennych gyda Chronfa Bensiynau Clwyd neu eich cyflogwr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gŵyn testun data sydd gennych chi. Mae cwyn testun data yn anghydfod neu anghytundeb am eich data personol. Er enghraifft, sut cafodd ei gasglu, ei ddefnyddio, ei gadw, ei rannu neu ei brosesu gan Gronfa Bensiynau Clwyd, eich cyflogwr, neu eu darparwyr gwasanaeth.
Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol nad ydynt yn gwynion testun data
Mae dwy ran i’r Weithdrefn.
Cam 1
Mae’n rhaid i chi wneud eich cwyn o fewn chwe mis ar ôl i’r mater godi. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen y weithdrefn i roi gwybod i ni:
- pam eich bod yn teimlo bod y penderfyniad yn anghywir; a
- sut mae’n mynd yn groes i reolau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Ni chewch godi anghydfod dim ond am nad ydych yn fodlon â phenderfyniad.
Fe ddylech dderbyn ateb o fewn deufis i anfon y ffurflen fel arfer. Bydd yr unigolyn sy’n ymdrin â’ch cwyn yn rhoi gwybod i chi os yw’r broses yn debygol o gymryd mwy o amser.
Cam 2
Os nad ydych yn hapus â chanlyniad Cam 1, neu os nad ydych yn derbyn ateb mewn da bryd, mae gennych hawl i apelio drwy Gam 2. Dylech glywed yn ôl o fewn deufis.
Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol sydd yn gwynion testun data
Os yw cwyn yn cael ei drin fel cwyn testun data, bydd yn cael ei drin yn wahanol i gwynion eraill o dan y Weithdrefn. Os yw rhan o’r gŵyn yn gŵyn testun data, gall Gronfa Bensiynau Clwyd neu eich cyflogwr:
- Drin y gŵyn gyfan fel cwyn testun data; neu
- Rhannu’r gwyn a delio gyda phob rhan o dan y weithdrefn berthnasol
Ar gyfer cwynion testun data, bydd Cronfa Bensiynau Clwyd neu eich cyflogwr yn:
- Cydnabod y gŵyn testun data o fewn 30 diwrnod o’i dderbyn
- Ymateb i’ch cwyn testun data heb oedi
- Rhoi canlyniad clir i chi heb oedi
- Egluro unrhyw gamau gweithredu sydd angen eu cymryd
Gallwch ddod o hyd i’n canllawiau i’r Weithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol a ffurflenni Cam 1 a 2 yn yr adran ffurflenni ac adnoddau ar ein gwefan.